A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U V W Z

The Works of Twm o\'r Nant, Volume II

T >> Twm o\'r Nant (Thomas Edwards) >> The Works of Twm o\'r Nant, Volume II

Pages:
1 | 2 | 3 | 4


*END THE SMALL PRINT! FOR PUBLIC DOMAIN ETEXTS*Ver.04.29.93*END*





This etext was prepared by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk
from the 1910 "Cyfres Y Fil" edition edited by Sir Owen M. Edwards.





This Etext is in Welsh





Gwaith Twm o'r Nant (Cyfrol II)




Cynhwysiad

"Dau Fywyd," sef bywyd amaethwr llwyddiannus a bywyd prydydd tlawd
"Bonedd a Chyffredin," teimlad Cymru yn amser Chwyldroad Ffrainc
Hafgan Twm o'r Nant
"Anwyl Gyfaill," cerdd i un dan groesau
Cywydd y Galon Ddrwg
Pedair Colofn Gwladwriaeth,--sef Brenin, Esgob, Ustus, a Hwsmon.
Interliwd yn dangos bywyd y wladwriaeth
Cyffes y Bardd
Cywydd Henaint



Rhagymadrodd.



Ganwyd Thomas Edwards (Twm o'r Nant) ym Mhen Porchell, Llan Nefydd,
yn 1739. Pan nad oedd ef ond hogyn, symudodd ei rieni i'r Nant
Ganol, Henllan. Nid oedd dim yn neillduol, hyd y gwyddis, yn ei
rieni; gweithient yn galed, ac nid o'u bodd y rhoddai eu bachgen
athrylithgar ei amser gorffwys i lyfrau. Ennill ei damaid oedd neges
ei fywyd. Canlyn ceffylau, gyrru gwagen, a llwytho coed, oedd ei
brif orchestion. O amgylch Dinbych y treuliodd ran fwyaf ei oes, er
iddo grwydro i ddyffrynoedd Hafren a Thowi yn ei dro; yn Nyffryn
Clwyd hefyd y treuliodd ei henaint. Yr oedd yn wr cadarn o gorff,
parod ei ddyfais, ond ni lwyddodd yn y byd. Bu farw Ebrill 3, 1810,
gan mlynedd i eleni; a chladdwyd ef ym mynwent yr Eglwys Wen, ger
Dinbych.

Yn anhymig y ganwyd ef, a dyna'r pam na chafodd ei athrylith, er
cryfed ei hadenydd ac er cliried ei llygaid, ei lle priodol ym meddwl
Cymru. Pe ganesid ef yn gynt, cawsai feddwl Cymru iddo ei hun; a
hwyrach y buasai cenedl yn deffro i weled ei hun yn nrych y ddrama.
Pe ganesid ef yn ddiweddarach, buasai'r Diwygiad wedi puro ei genedl
ac wedi sancteiddio ei enaid yntau, a gallasai ddangos ei hun i
genedl newydd yn yr un drych. Ond daeth Twm o'r Nant yn oes y
Diwygiad, pan oedd cedyrn pulpud Cymru yn galw ar y genedl i edrych o
honi, nid iddi, ei hun. Er hynny, y mae interliwdiau Twm o'r Nant yn
naturiolach a pherffeithiach darlun o fywyd y ddeunawfed ganrif na
dim arall a feddwn.

Yr oedd cydymdeimlad Twm a'r werin, rhed holl nerth ei serch mawr at
y tenant gorthrymedig a'r gweithiwr. Yr oedd ysbryd y Chwyldroad
Ffrengig ynddo yntau, ond gyda gwelediad clir, a ffydd.

Yr oedd yn ddiwygiwr ei hun, mae ei holl waith, gydag un eithriad,
mor rymus dros foesoldeb a phregethau'r Diwygiad. Ni welodd holl
ddrwg chwant y cnawd.

Fel dramayddwr y mae'n fwy nag yw'r Wyddfa yn Eryri, saif yn
llenyddiaeth Cymru heb neb yn agos ato. Y mae pob cymeriad
ddarluniodd yn fyw, nid yw'n gwneyd i glai difywyd siarad, ac nid yw
byth yn ail gerdded yr un llwybr. Ond yr esboniad ar ei ddylanwad yw
ei allu rhyfedd i siarad fel ysbryd goreu ei oes,--yn synhwyrol, ac
ar yr un pryd yn llawn dychymyg; yn hynaws, ac eto heb arbed y drwg.
Ni fu sant na phechadur yn hanes Cymru eto heb deimlo fod Twm o'r
Nant wedi dweyd y gwir.

OWEN M. EDWARDS.



DAU FYWYD. {1}
(Alaw-. "Rodney.")



Y puraidd Robert Parri,
Maddeuwch imi 'mod
Yn awr yn cynnyg gyrru canu,
I geisio clymu clod
I chwi, sy'n byw mewn llawnder,
A'ch pleser, yn eich Plas,
Gyda'ch meibion yn heddychlon,
Heb unrhyw galon gas;
Teulu ydych hoew wladaidd,
Yn byw'n ddifalch ac yn ddofaidd,
Nid hel "Meistr" ac ymestyn,
A champ-godi a chwympo gwedy'n;
Wrth fyw'n gytun at ddaioni
Fe ddaeth mawrhydi i'ch rhan:
Eigion rhediad ac anrhydedd
Yw'ch mawredd yn eich man;
Mae eich maesydd, wych rymusiant,
A'ch 'nifeiliaid, i chwi'n foliant;
Ychen, defaid, a cheffylau,
A da blithog, laethog lwythau;
Pob angenrheidiau 'n rhadus,
A threfnus yma a thraw,
A Duw'r heddwch, mae'n arwyddo,
'N eu llwyddo dan eich llaw.

Maith yma John a Thomas,
Cyweithas frodyr cu;
A da yw'ch golwg chwi, 'r hen geiliog,
Awch talog wrth eich ty:
Mae'n hwythau 'n ddynion ethol,
Naturiol ym mhob taith,
A di ynfydrwydd ill dau'n fedrus,
A gweddus yn eu gwaith;
Felly rhyngoch yn llwyr wingo,
Mawrhydi'ch llwyddiant a'ch holl eiddo,
Nes eich myned, hwylied helaeth,
Yma'n degwch i'ch cym'dogaeth;
A chywaeth tai a chaeau,
Sydd i'ch meddiannau'n ddwys;
Fe dal eich llawnder, a'ch call undeb,
Drwy burdeb aur da bwys:
Rhyfedd fendith, rhyfedd fwynder,
Sy'n ddymunol dan eich maner;
Rhyfedd rhagor chwi fawrhyged,
A m'fi ac eraill yn fegeried;
Chwi ar led mor lydan,
A'ch arian glan drwy glod -
Minnau'n ffwlyn, dwlyn, diles,
Anghynnes, gwag y 'nghod.

Chwi'n magu anifeiliaid,
Moch, a defaid iawn
Gweirgloddiau, a chauau, tai, a'ch heol,
Sy'n llwyddol ac yn llawn:
Minnau dim fagais
At fantais eto i fyw,
Ond lladd ceffylau, dilyn ffoledd,
Anrhydedd oeredd yw:
A'r hyn a fagais o'm rhywogeth,
Mewn twrr o gwynion, oedd tair geneth;
Mae rhei'ny a'u mam mewn dinam dyniad,
Er fy 'mgeledd lawer galwad
Mae'r merched bawb am orchwyl,
Yn ol eu hwyl eu hun,
Yn troi eu helynt at ryw alwad,
A'u teimlad yn gytun;
Eu mam a minnau sydd yn myned,
Fel rhai eraill, ar i wared;
Tua'r bedd mae gwedd ogwyddiad,
Rhieni'n mynd, a'r plant yn dwad:
Mae treigliad asiad oesau
Fel tonnau miniau mor,
Neu ffrwd gyffredin olwyn melin,
Yn dirwyn yn ddi dor.

A chan nad oes mewn bywyd
Un rhydid yn parhau,
Gwnewch o'ch mammon gyfion gyfaill,
Ceiff eraill eich coflau;
Dadgenir hyn ond odid,
O'ch plegyd chwi a'ch plant,
Pan f'o chwi byddar yn eich beddau,
Tan odlau Twm o'r Nant;
A'r hyn o gysur wy'n ei geisio,
Ni ddymunwn feddu mo'no,
Oni cheir e'n gwbl fodlon,
Heb un gilwg yn y galon;
A'ch rhoddion os cyrhaeddaf,
Cyhoeddaf chwi o hyd;

Ac os y bennod ni dderbynia',
Nis gwn a fyddai'n fud:
Cerdod wlan yw 'nghan a 'nghwynion,
Am hynny gwyliwch dorri'ch calon;
Mae rhagor didwyll rhwng cardode,
A hyn chwi wyddoch, rhowch a wedde':
Ac oni rhowch o'r achos,
Ni wiw mo'r dangos dant,
Fe fu fwy dychryn ar y dechrau,
Na hynny, 'n ochrau'r Nant.

Ond Nant a'i cheunant chwannog,
Sy'n lle afrywiog fri;
Pe rhoech o'ch gog'yd lwyth eich gwagen,
Ni lanwe'i hagen hi;
Pe b'ai ond sych ben sached,
O wyched fydde'i wawr,
Ceid y teulu i gyd at olud,
A'u llwyrfryd i'r droell fawr;
Mi gawn frethyn cryf i'r eithaf,
Imi'n goat erbyn gaeaf;
Gallwn addo i'r wraig mor haw'gar,
Eto fantell at y fentar -
Dull anwar ydyw llunio,
Ag addo o'ch eddo chwi;
Mawrhygu rhoddion cyn y caffon'
Llawenydd cynffon ci;
Pe'ch holl rodd o fodd a fydde'
Ond briwsionyn at bar 'sane',
Mwy fyddai hynny i'w feddu'n foddus
Nag a haeddwn ni'n gyhoeddus:
Ffarwel yn bwyllus bellach,
Fe dderfydd afiach wen,
Gwisgiad gore', gras cyn ange',
I chwi a minne', Amen.



BONEDD A CHYFFREDIN. {2}



(Alaw--"Y Galon Drom.")

Robert Davies, rhyw bert ofyn
A yrraist i mi, yn wers dwymyn,
Oblegid bonedd, blagiad bennau,
A'r cyffredin gyffroiadau;
Nid wy' teilwng nodi at olwg
Am y cyfryw
Faith iawn ymliw, fyth yn amlwg;
Dyn truenus, boenus beunydd,
Ydwy'n wyrdraws,
Rhy ofernaws i'm rhoi'n farnydd.

Wele'r farn yn gadarn gydwedd
A geir inni o'r gwirionedd, -
Mai ffrwyth pechod, arfod hirfaith
O dir uffern, ydyw'r effaith;
Hwn yw'r achos yn oruchel
Cynhyrfiedig;
Pawb am ryfyg, pob ymraf'el;
Yr un anian sy ynnom ninnau,
Ag oedd yn gosod
Cynnyg isod Cain ac Esay.

'Roedd esgus Adda o'i droseddau,
"Y Wraig," medd ef; "Y Sarff," medd hithau;
Felly'r wlad, a'u nad annedwydd,
Bawb a'u hesgus dros eu hysgwydd,
Gwael eu gwedd, a bonedd, beunydd
Sy'n ymliw'n amlwg
Orwag olwg ar eu gilydd;
Fal pren ar demestl, prawf di amau,
Mawr fydd ffwndwr
Acw y'nghynnwr' y canghennau.

A'r ceinciau'n raddau sy'n cyrhaeddyd
Sefyllfaoedd yr holl fywyd;
Tyfiad pawb, o dlawd i frenin,
Sy'n llygreddawl o'r un gwreiddyn;
Nid oes heddyw'n gwneyd eu swyddau,
'N un gelfyddyd,
Neb a'i fywyd na bo feiau,
Naws a gewch mewn is ag uchod
I ryw ddichell,
Ymhob bachell am eu pechod.

Mae rhai penaethiaid, euraidd araith,
A'u hawdurdod yn ddi effaith;
Esiamplau drwg, mewn golwg helaeth,
Sy'n wall anfeidrol mewn llywodraeth
Rhai ynadon rhy niweidiol,
A chyfreithwyr
Sydd anrheithwyr swydd anrhaethol,
A rhai personiaid, pwy resyna?
Ymhob ffiaidd
Naws aflunaidd, nhw' sy' flaena.

A thra fo'r blaenaf heb oleuni,
Yn twyso'r dall i ffos trueni,
Swn digofaint sy'n dygyfor
Yspryd Saul, elynol flaenor,
Lladd y plant er mwyn dieithriaid,
I geisio cadw
Yn 'r ymyl acw'r Amaleciaid;
Cryfhau breichiau annuwioldeb
Mewn drygioni,
Daw'n warth i ni, a Duw'n wrthwyneb.

Mae'r saith angel ar eu siwrnau,
Yn dechreu tywallt eu phiolau;
Llawer gwae sy'n llwyra gwewyr,
I'w rhoi yma i'r rhai amhur;
Gwae rhai gydiant faes at faesydd,
Nes bod gwendid,
Oes wall ofid, eisiau llefydd;
Mae n ddi ameu'n anhawdd yma
I dylodion,
Ac elw byrion, gael eu bara.

Dawn medrusgall dyn rhodresgar,
Gwneyd ei dduw o gnwd y ddaear;
Ysguboriau gwaliau'n gwlwm,
A storehouses, ys da rheswm;
Ond geill naws ing dywyllnos angau,
Alw'r ynfyd,
I ado'i buryd cyn y borau.
Ameu'r Arglwydd am ei lawndra,
Cofiwn heddyw,
Am wr sy'n marw 'mhorth Samaria.

Cofia, 'speiliwr cenhedlaethau,
Y bobloedd a'th yspeilia dithau;
Am waed dynion mewn galanas,
Ac am dy drais mewn tir a dinas,
Gwae elwo elw drwg i'w berchen,
Yn falch 'i af'el,
I nythu'n uchel--noeth yn ochen;
Ac os yw Lloegr dan 'r un llygriad,
Caiff gan yr Arglwydd,
'R un cul dywydd a'r Caldea'd.

Beth yw plasau, trasau trysor,
Ond gorseddfeydd annuwiol gyngor?
Mae gwin, a bwyd, a gwyniau bydol,
Yna i'w moedro, 'n anghymedrol;
Meibion Scefa 'mhob naws gaf'el,
Heb yr Arglwydd,
Sy dan chwithrwydd dyn a chythrel;
Chwys y tlawd yw'r cnawd a'r cnydau,
Rhwysg a balchder,
Y swn a'r pleser, sy'n eu plasau.

Fe wasg y mawrion dewrion dyrus
Y llafurwyr, a'u llaw farus;
A'r llafurwyr, a'u holl fwriad,
Gwisgo'r gwyn, a gwasgu'r gweinia'd;
Gwasgu sydd, a gwisgo swyddau,
Nes yr aethon'
I faela dynion, fel eidionau;
Gwerthu'r cyfion er ariannau,
A'r tlawd truan
Er pris gwadan par esgidiau.

Dyma'r byd ac ergyd gwyrgas,
Y sydd yn awr a'i swyddau'n eirias;
Memi melin flin aflonydd,
Egni galed yn cnoi 'gilydd;
Pawb ar eraill a weryran',
A neb yn cwyno
Ei wyrni heno arno'i hunan;
A phob enwau, tlawd a bonedd,
Oll yn euog,
Tan'r un warog, trwy anwiredd.
Gwedi chwalu gwawd uchelwyr,
Pa faint ffurmach ydyw'r ffarmwyr,
Sydd mor feilchion, gw'chion gyhoedd,
Rymus droediad, a'u meistradoedd?
Pell yw peirch eu meirch a'u merched,
Hwy rygyngant
Fwy nac allant yn ddigolled:
Lle bo addysg byd neu eiddo,
Dyna ragrith,
Wyniau melldith, yn ymwylltio.
Ac os ewch i ddangos ochain,
Babel droiau'r bobl druain;
Llygredd llun, a gwyn drygioni,
Swn yr hunan sy' yn y rhei'ny;
Meddwi a hwrio, mawr ddihirwch,
Bawb lle gallant
A ddilynant aflawenwch;
Anesmwythdra, lleithdra llwythdrwm,
Byw'n ddi'g'wilydd
Dan eu gwarthrudd, dyna'u gorthrwm.
A phwy ond diafol, awdwr pechod,
Sydd yma y'nghadfa pob anghydfod?
Pan ddarfu'r tyn offeryn Pharo
Bwytho ar ddynion, beth oedd yno?
Nid ffast wenwyn, na phastynau,
Mewn cynddaredd,
Oedd eu buchedd dan eu beichiau;
Ond o'u cyfyngder eger eigion,
At Dduw'n ddibaid
'Roedd eu hochenaid a'u hachwynion.
A than bwysau'r ieuau 'rwan,
Geifr a moch sy'n croch ysgrechian;
Ymroi a diodde'n ddi w'radwyddiad
Dan iau'n ddyfal a wna ddafad;
I ddefaid Crist mae'r iau'n esmwythdra,
Cariad Isr'el,
Goruwch fug'el, a'u gorchfyga;
A'r rhai orchfygant awch arfogaeth
Chwantau'r gelyn,
Mae'r Iesu'n dilyn iau'r dystiolaeth.

Beth yw rhyfel boeth, hir ofid,
Ond melus chwantau beiau bywyd?
Olwyn fawr digofaint gyfion,
Sy'n troi'n boenus trwy ddibenion:
Ac os y tlawd raid heddyw ddiodde',
Caiff gwyr mawrion,
Taer annoethion, eu tro nhwythe',
Fel mae amser i bob amcan
Trefn Ragluniaeth,
Drwy wahaniaeth Duw ei hunan.

Angenrhaid yw o ran cyflyrau,
Byd rhai astrus, yw bod rhwystrau;
Gwenith glan 'does ofon sefyll,
Pan godo'r gwantan gyda'r gwintyll;
Tan y groes, mewn oes yn isel,
Mae lle'r Cristion.
Fe ddaw'n gyfion o bob gaf'el;
A Duw anwyl, er daioni,
Drotho'n buchedd
At wirionedd, o'n trueni.



HAFGAN.



Alaw--"Spaen-Wenddydd."

Y teulu mwyn hael-gu mewn hedd,
Rhowch osteg, rai glandeg eu gwedd;
I ddatgan un haf-gan yn hy,
Hen dirion arferion a fu,
Mewn llawer ty 'roedd cennad da,
Ac enw hyf i ganu Ha;
Fel pob creadur sy'n ei ryw,
Ag aml don yn canmol Duw.
Mae'r ddaear oedd fyddar, wedd fud,
Mae'r coedydd, mae'r bronnydd mawr bryd,
Mae'r dyffryn yn deffro ei holl wraidd,
Mae eginoedd y gwenith a'r haidd,
Mae llaeth a maidd, mae llwythau mwyn,
O ffrwythydd haf yn ffraeth ymddwyn;
Mae pob creadur yn ei ryw
Ag aml don yn canmol Duw.
Gan hynny gwnawn synnu 'mhob swydd,
Ystyriwn a gwelwn i'n g[w^]rydd,
Ddoethineb dawn undeb Duw Ne,
Yn trefnu pob peth yn ei le;
Y mawr dymhorau, ffrwythau ffri,
Er hynny, anufudd ydym ni,
A phob creadur yn ei ryw
Ag aml don yn canmol Duw.
Rhoed i ni, heb fawr brofi mo'r braw
Bob mwynder a llawnder i'n llaw;
'Nifeiliaid a defaid ar dir,
Y rhei'ny sy'n hardd inni'n wir,
Pob peth yn glir i'n porthi'n glau,
A ninnau er hyn heb 'difarhau;
A gweled pob greadur gwiw
Ag aml don yn canmol Duw.

Mae r holl greadigaeth fel drych,
Rhai deimlant a welant yn wych,
Bod pob peth yn datguddio'n gytun,
Ddaioni'r Creawdwr ei hun;
Ond natur dyn sy fwya' dall,
Tan gwmwl balchder ofer wall,
Ni fyn ddarostwng o'i dda ryw
Un cymal dewr er canmol Duw.

Pa beth yw rhyfeloedd y byd,
Ond balchder ac uchder i gyd?
Fel 'r angel nerth uchel wnaeth ef
I ormesu teyrnasu tu'r nef;
A dyna'n llef sydd fyth rhagllaw,
Yn ffrwd gyffredin dryghin draw,
O eisiau bod yn Iesu byw
Bob cymal dewr yn canmol Duw.

O! rhyfedd yw'n buchedd trwy'r byd,
Mewn gwagedd a llygredd a llid,
Heb geisio gwir deimlo gair Duw
Sy'n ein galw ni o feirw i ail fyw;
Ond Och! mae'n clyw ni wedi cloi,
Ac ysbryd dall i ymbarotoi;
'Rym ni yn gysglyd oerllyd ryw,
Ac eisieu'n deffro i ganmol Duw.

Cynhyrfwn, a gwelwn mai gwir
Y cawn feirw, cwyn arw, cyn hir;
Gwybyddwn na ffaeliwn yn ffol,
Mae'r bywyd trag'wyddol yn ol;
Ymwnawn mewn rhol am ffrwythau'r ha,
Lle mae gorfoledd diwedd da;
Dyna r fan lle caffom fyw,
Amen, a 'stad, yn mynwes Duw.



ANWYL GYFAILL.



Cerdd i annerch cyfaill caredigol, pan oedd dan groesau a blinderau.

(Alaw.--"Y Galon Drom.")

Anwyl gyfaill, rwy'n dy gofio,
A gweddi mynych, gan ddymuno
I Dduw roi llwyddiant er pob lludded
Yn graff i'th onest gorff a'th ene'd;
A dal dy draed ar Graig yr oesoedd,
Er pob helynt,
Eiddig oeddynt, a ddigwyddodd;
Ac er pob peth a ddigwydd eto,
Duw fo i'th dywys,
Yn gyhoeddus, rhag tramgwyddo.

Cefaist yma lawer damwain,
Megys rhybudd cerydd cywrain;
Mae'r Saer-celfydd ymhob cilfach,
Am dy docio i'th wneyd yn decach,
Torri ceinciau d' anystyriaeth,
Harddu'r Eglwys,
Caer hoff wiw-lwys, mewn corpholaeth,
Bwrw'r gwarthus bnynu a gwerthu
Hwnt o'r deml,
I fan isel a fyn Iesu.

Gwel fod ffraeth ragoriaeth gaerog
Rhwng gwir blentyn a gwas cyflog;
Rhaid i'r plentyn etifeddol,
Gyrraedd didwyll gerydd tadol;
Nid ydyw rhai na chant yn weddaidd
Fflangell barod,
Bwys awdurdod, ond bastardaidd;
Dal dy sel a gwel y gwaelod,
Plentyn cyfan
Wyd ti dy hunan i'r Tad hynod.

Cariad Crist a ddarfu'n dirion
Deg arwyddo'n dy geryddon;
Efe, cofia, sydd drwy'r cyfan,
A'i ddawn ollawl i'th ddwyn allan;
Ar Job gynt ca'dd Satan weithio;
Darfu'n rhydost
Gnoi, di a'i gwyddost, gnawd ac eiddo;
Ond cadwe 'i enaid gwedi hynny -
Rhyfedd, nerthol,
Anhebgorol, mae Duw'n caru.

A gadwo Duw a fydd cadwedig
Trwy ddwfr a than, a gwawd a dirmyg;
Nid oes dim all niweid egraidd
I rai garant Dduw'n gywiraidd;
Mae pob rhyw bethau'n rhannau'r rhei'ny
Yn gweithio beunydd
Oreu deunydd er daioni;
A gwyn ei fyd y diwyd ffyddlon
A ail aned,
A Duw'n gywled yn ei galon.

Yr Eglwys ydyw'r hardd dreftadaeth,
A chalon dyn yw'r pren gwybodaeth;
Mae'n ffrwyth gwa'rddedig ynddi'n canlyn,
Gwyliwn drwyddo goelio'r gelyn;
Pwyll a sobrwydd sydd angenrhaid,
Dal ar orchwyl
Oen Duw anwyl yn dy enaid:
"Fy mab," medd Duw, "moes im' dy galon";
Dyna'r d'ioni,
Gyda nyni, ymgadw yn union.

Y galon yw'r ystafell addas,
T[w^]r puredig, ty'r briodas;
Os gwelir un hen w[y^]n yn honno,
Ac heb y wisg briodas ganddo,
Rhwymwch, deliwch, draed a dwylo,
I'r t'w'llwch enbyd,
Lwyra gofid, 'lawr ag efo;
Caiff pawb ond plant y ddinas burlan,
Eu troi, dyallwch,
I'r tywyllwch, o'r tu allan.

Cans oddi allan mewn swydd hyllig
Mae'r cwn a'r swyn-gyf'reddwyr eiddig,
Puteinwyr a llofruddwyr gwaedlyd,
A phob celwyddwyr, yfwyr hefyd,
Addolwyr eulyn, ddwl oer alwad,
Ni 'dwaenant olau,
Dawn a geiriau Duw, na'i gariad;
A'r holl broffeswyr hunan-gnawdol,
Nid yw eu rhyfyg,
A'u dull unig, ond allanol.

Gwyliwn fod ar nod annedwydd,
Rhaid dal yn agos at yr Anglwydd,
A ffoi i Soar am anrhydedd:
Ni thal sefyll ar wastadedd,
Fel gwraig Lot, a ddarfu gychwyn,
Ei gwlad a'i chartre,
Fodd anaele, fu iddi'n elyn.
Chwant y cnawd, a llygredd cyhoedd,
Allant dyfu
I'th anafu o borth y nefoedd.

Llawer ffordd a llawer cwestiwn
Sydd yn t'wyso rhyw demtasiwn;
Gormod cyfle, a mynych arfer,
Eill ein hudo ni o'n llawn hyder;
Er bod doethineb mawr yn Sal'mon,
Merched lledrydd,
Draws eu gilydd, droes ei galon;
Er gwneyd teml Dduw yn 'i ddechreu,
F' aeth i weithio,
Dan wenh'eithio, i'w duwiau nhwytheu.

O! mor llithrig ydyw llwybyr
Tuedd dyn i fynd wrth natur;
Rhyfedd gariad a thrugaredd,
Fod rhai'n sefyll hyd y diwedd;
Os ai fel Pedr dros y llwybrau,
Gweddia'n fynych,
I Dduw edrych, di ddoi adrau:
Golwg Iesu a'n galwo'n gyson,
A'i air fo'n llosgiad,
Unig hwyliad yn ein calon.



OLWYNION DWFR MELIN RHUTHYN.



Codog fawr enwog forwynion,-dwy-rod,
Yn dirwyn yr afon;
Cwyd gwegil codau gweigion,
Codau o bwys ceidw y bon.



Y GALON DDRWG.



Swelwn echrysa golwg,
Gwael iawn ddrych y galon ddrwg:
Calon afradlon o fryd,
Annuwiol heb ei newid:
Calon yw mam pob cilwg,
An-noeth drefn, a nyth y drwg;
Drwg ddi-obaith, draig ddiball,
Pwy edwyn ei gw[y^]n a'i gwall?

Effaith y cwymp, a'i ffrwyth cas,
A luniodd pob galanas;
Grym pechod yn ymgodi,
A'i chwantau fel llynnau lli;
Glennydd afonydd y fall,
Dengys bob nwydau anghall;
Dig-ofid yn dygyfor,
Tan a m[w^]g, fel tonnau mor:
Uffern yw hon, o'i ffwrn hi
Mae bariaeth yma'n berwi:
Ysbyty, llety pob llid,
Gwe gyfan gwae a gofid;
Trigfa pob natur wagfost,
Bwystfilaidd 'nifeilaidd fost:
Treigle a chartref-le trais,
Rhyfeloedd, a phob rhyw falais;
Rhial pob an-wadal w[y^]n,
Ty ac aelwyd y gelyn.
Meirch, a chwn, a moch annwn,
Sy'n tewhau yn y ty hwn,
Seirff hedegog mewn ogo,
A heigiau dreigiau blin dro.
Pob lleisiau, arw foesau'r fall,
Sy'n dwad i swn deall;
Swn t'ranau, sain trueni,
Swn gofalon greulon gri:
Melin wynt, yn malu'n wag,
Rhod o agwedd rhedeg-wag;
A'i chocys afaelus fon,
Yn troi'u gilydd trwy'n galon;
Drylliad, ag ebilliad bach,
Y maen isaf, mae'n hawsach,
Na dryllio, gwir bwyllo i'r bon,
Ceulaidd, drygioni calon,
C'letach a thrawsach ei thrin,
Mewn malais, na maen melin.

Llais hen Saul, a llys hwn sydd,
Fan chwerw, o fewn ei chaerydd.
Ni all telyn a dyn doeth,
Clywn, ennill calon annoeth.

Och! ni byth, achwyn y bo'n,
Wrth goelio, fod fath galon:
Gweddiwn, llefwn rhag llid,
Yn Nuw, am gael ei newid.
Nid oes neb a'i hadnebydd,
Ond gain y Tad, a'i rad rydd;
A'n gair os daw, gwiw-ras don,
A dry'r golwg drwy'r galon:
A drwg calon draw cilio,
Amen fyth, mai hynny fo.



PEDAIR COLOFN GWLADWRIAETH.
BRENIN, USTUS, ESGOB, HWSMON.
Rhyfela, Cyfreithio, Efengylu, Lluniaethu.
Awyr, Tan, Dwfr, Daear.
Anadl, Cyfraith, Efengyl, Cnawd.



Yn gymaint ag i mi ryfygu argraffu y cyfryw waith distadl ag yw hwn,
oblegyd ei fod yn myned tan yr enw Chwaryddiaeth fe geir amrywiol yn
ei wrthwynebu, canys ni allant oddef i ddim da ddyfod o Nazareth. Fe
fydd y farn arnaf fi, yn enwedig ymhlith dynion ffroen uchel
Phariseaidd, a hidlant wybedyn, ac a lyncant gamel.

Ond yn fwy neillduol, mewn ffordd o amddiffyniad i'm gorchwyl, mi a
ddymunwn ar bob un esgusodi barnu cyn profi y dystiolaeth. Gwaith
pawb a brofir; felly mi a ddymunaf ar y rhai sydd barotach i farnu
nag ystyried, i ddar llen neu wrando yr hyn sy'n gynwysedig; ac yna
hwy a gant adnabod fod pob gair yn wir at ei achos.

Yn gyntaf, fe ddaw un i adnodd y testyn, ac un dan enw Brenin; ac at
hwnnw, un i ddatguddio amrywiol o'r twyll sydd yn y deyrnas; yn ol
hynny, yr Hwsmon (sef y Cybydd); ac at hwn fe ddaw hen fenyw ddiog.
A daw un dan enw Esgob; ac at hwnnw fe ddaw un i gellwair am le i
fyned yn offeiriad; yn hyn y datguddir y trueni a'r llygnedd sydd
mewn gosodiadau eglwysig. Ac yn ganlynol daw yr Ustus, ac ato ef yr
Hwsmon, ym mha le y dangosir dull y cam-gyfreithiau a'r creulondeb
sydd yn y wladwriaeth. A daw yr Hwsmon i'w ddyrchafu ei hun, mai efe
sy'n cynnal pawb; i ba un yr atebir, na all un alwedigaeth ei chynnal
ei hun,--fod sefyllfa ddynol yn gyffelyb i un dyn, y pen a'r holl
aelodau yn gyfatebol i un corff. Daw yr Hwsmon, wedi ei ofidio gan
glefyd, yn ymofyn Doctor, ac yn addunedu, os cai hoedl hwy, y byddai
yn ddyn duwiol; ac y mae yn ymddarostwng i ychydig o enw diwygiad;
ond pan gyntaf y gwellhaodd o'i glefyd, y mae yn myned waeth nag o'r
blaen, ac yn y diwedd yn marw yn druenus. Yn y modd hyn y mae'r
llyfr hwn yn treiglo.

Nid oes gennyf ond ei adael i'ch barn chwi oil, gan obeithio nad oes
neb mor foethus na allant "brofi pob peth, a dal yr hyn sydd dda."

Yr eiddoch oll, &c.,

THOMAS EDWARDS.



PEDAIR COLOFN GWLADWRIAETH.



[Ymddengys Syr Rhys y Geirie Duon.

Syr Rhys.
Gostegwch bawb, gostegwch,
Os ydych am wrando, rowndiwch,
Y fi ydyw'r crier ffraethber ffri,
Ddaeth yma i gyhoeddi heddwch.

Fy enw sydd hynod ddigon,
Syr Rhys y Geirie Duon,
G[w^]r wyf a fedr ddweyd eu bai,
Drwy deg, i rai cymdogion.

Ond mi glywes fy nain yn ownio,
Mai gore ydyw'n lleia' siarato;
O ran fe gynhyrfa llawer un swrth,
Mae'n debygol, wrth ei bigo.

Ni fu erioed gynlleidfa luosog,
Na bydde rhyw rai yn euog;
Rhag ofn cenfigennu am hynny ymhell,
Mae llawenydd yn well i'w annog.

Mae gennym ni fath ar chwaryddieth,
Yn pwnio 'nghylch y pedwar penneth;
Sef Brenin, ac Ustus, ac Esgob llon,
A'r Hwsmon hoewlon heleth.

Y Brenin i wneyd llywodreth,
A'r Ustus i reoli cyfreth;
A'r Esgob i bregethu'r gwir,
Wrth reol clir athrawieth.

Ac ynte'n Hwsmon manwl,
Sy'n talu tros y cwbwl,
Trwy'i waith a'i lafur, drafferthus lun,
Wrth drin ei dyddyn diddwl.

Dyna'r testun oll mewn dwyster,
Mae amryw drafaeliwr tyner
A welodd sign ALL FOURS mewn tre
A'i lyged yn rhyw le yn Lloeger.

Ond ar hanes a dull y rheiny,
Mae sail ein hact ni 'leni,
Ond bod ynddi hi Gybydd, ac amryw o ger,
'Ran pleser i'r cwmpeini.

'Doedd waeth dweyd ar fyr ei threfen,
Na mynd i bregethu rhyw hir brygowthen,
Mae hanner gair yn fwy i gall.
Na dweyd i ddi-gall ddeugen.

Y sawl sydd am brofi sylwedd,
Gwrandawed hyn i'r diwedd,
Os nad oes iddi ond dechre bach,
Mae'n ffurfach yn ei pherfedd.

Tyrd dithe'r cerddor tene,
Cais dynnu rhyw s[w^]n o'th danne,
Fel y gallwyf ddawnsio tro,
Yn bur-ddewr i dreio'r byrdde.

Ffarwel i chwi dro go fychan,
Daw'r Brenin yma'n fuan;
Ond mi ddof fi ato fe eto yn hy,
'Ran siawns na thuedda'i ymddiddan.
[Diflanna.

[Ymddengys Brenin.
Brenin.
'Nawr o'ch blaene'r hawddgar fyddin,
Mi ddes ger bron dan enw Brenin,
I adrodd i chwi fy mhwer addas,
A'm cadernid uwch y deyrnas.

Gan faint fy mraint, a'm parch, a'm honor,
Twf eurdeg harddwych, tyrd, y cerddor,
'Rwy'n chwennych datgan can blethedig,
Hyf a moesol, hefo miwsig, -

(Alaw,--"DYDD LLUN Y BORE.")

"Wel, gwelwch i gyd,
Trwy'r byd yn wybodol y rheol sy'm rhan,
I mi mae anrhydedd, a mawredd pob man;
I'r Brenin mae'r braint,
Wir gywraint ragorieth, yn benneth mawr barch,
A phob ryw reoleth trwy'i daleth hyd arch;
I mi mae'r awdurdod, a mawr air Emerod,
I mi mae'n bri hynod yn barod mewn byd,
I mi mae'r gair uchaf, beth bynnag a archaf,
Mae'n dynion sydd danaf, mi brofaf i'm bryd,
Hwy wnant fel y mynnwyf pan alwyf yn nghyd;
Os archaf eu hanfon i ryfel echryslon,
Yn erbyn gelynion, yn union hwy an',
Hwy laddant, hwy leddir, gorchfygant, gorchfygir,
Trwy ddyfroedd y mentrir, nid ofnir mawr dan,
Dangosant eu cryfdwr iawn ledwr yn lan.

"Fy awdurdod sydd gry',
Mewn gallu teg 'wyllys yn ddawnus tan Dduw,
I mi mae gor'chafieth, rheoleth pob rhyw,
I mi mae mawrhad,
Pob gwlad enwog lydan sy'n rhwyddlan i'm rhan,
Mae'r deyrnged i'm gafael, er mael o bob man;
Mae danaf, nod union, arglwyddi a marchogion,
Pob math ar w[y^]r mawrion, sydd ffraethlon swydd ffri,
Pob offisers diwad, pawb gwiwlan, pob galwad,
Pob cyfoeth, pob cofiad, mewn rhad mwy na rhi',
Sy'n dirwyn o diroedd a mofoedd i mi;
Gan hynny gwybyddwch, heb gilwg, o gwelwch,
'Rwy'n cario'r hawddgarwch ar degwch pob dyn,
I mi mae'n holl arwydd, a'r goron deg wiwrwydd,
Tan fraint ardderchawgrwydd, nef hylwydd ei hun,
Dylwn gael i'm cyfarch bur barch gan bob un."
[Ymddengys Syr Rhys y Geirie Duon.

Wel, mi ddalia beint o ddiod,
Fod yma ryw un wedi yfed gormod,
'Ran ni chlywes i yn sobr odid ddyn,
Yn ei frolio ei hun yn fwy hynod.

Bren. Beth, ai ni wyddoch yma'n ddiwad
A phwy, syre, 'r y'ch chwi'n siarad?

Pages:
1 | 2 | 3 | 4
Copyright (c) 2007. topbookz.net. All rights reserved.